kywydd y galon
1 Oio galon vergronn vach
2 ddieres chwaer ddiwairach
3 a vy dryll vwy i drallawd
4 na thydy gwehedydd dy gwawd
5 palmeres mynwes ai maeth
6 penwyn gyheryn hiraeth
7 kronn vorwyn rhy derwyn daer
8 kryglwyth meddylav kroeglaer
9 llonydd vydd vodd difocsach
10 llenwi i bydd y llvn bach
11 honn a bair kadair keudawd
12 henw a myfrwys gwenwys gwawd
13 rhyad wyllt ddyn rhyod wael
14 rhyhv anserchog rhyhael
15 ystyried windraul daulv
16 y ddiod vach ddayed vy
17 honn a wna anregfa r hawg
18 hwyl berw lliw hael byrr llawiawg
21 ar rhylw ar heolydd
22 wyneb oer yno i bydd
23 heb i kael haibo kuliwyf
24 dolur ai klyw wnaethur klwyf
25 yr ail ydiw ar loewdarf
26 vno dros wefl vefl ar varf
27 y trydydd ny wybydd neb
28 troie dyn trwy odineb
29 dan chwenychv chwaeln vchel
30 dwyn y dyn gwyliwn dan gel
31 hynny yw gwraidd yr hainyw
32 henw swydd valch honno sydd vyw
33 nyd mwy rhyvel dan geli
34 dyn na mil myn duw na mi
35 yn karv nesaev serch
36 er anfodd pawb yr vnferch
37 pobl wrthrych llewych llywy
38 pefr vainwyr pawb wyr pwy
39 mygr hyloew magwyr hoewloer
40 Morfudd deg au daurudd dioer
41 hoen tes pan vai hinon taer
42 ar vronn olygon loewglaer
43 haelwen leddf heilwn lwyddferch
44 haulwen a seren y serch
Davydd ap gwilim ai kant